Fferm West Regwm

Fferm West Regwm Safle gwych ar gyfer unrhyw achlysur

Mae Fferm West Regwm yn safle gwych ar gyfer unrhyw achlysur ar ferm 100 erw odidog ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro. Dyma leoliad delfrydol ar gyfer gwledd briodas neu unrhyw achlysur arbennig arall.

Mae’r adeilad a godwyd yn bwrpasol ar gyfer achysuron o’r fath yn gyfuniad o’r traddodiadol o ran y gwaith carreg a’r modern o ran y cyfleusterau. Mae’n cynnig cyfle i chi felly addurno’r safle at eich gofynion personol chi ar gyfer priodas neu achlysur arall.

Safle Unigryw ar gyfer Unrhyw Achlysur

Gwledd Briodas, Achlysur Arbennig, Cinio Mawreddog, Seremonïau Gwobrwyo, Profiadau Arlwyo Dros Dro neu Ddathliad i’r Teulu: dyma rai o’r achlysuron y bydd Fferm West Regwm yn ddelfrydol ar eu cyfer.

Mae’r fferm ar safle hawdd ei gyrraedd ac mae digon o le parcio yno. Gyda’r dirwedd o gwmpas y fferm, y llefydd eistedd tu allan, a’r balconi lle gallwch fwynhau’r golygfeydd gogoneddus, mae West Regwm yn lleoliad delfrydol ar gyfer eich achlysur arbennig.

West Regwm Farm events venue, the perfect evening venue
Lit balcony area for an inside outside venue space
West Regwm Farm wedding and events venue Whitland Carmarthenshire
Modern events venue with extensive grounds and balcony area perfect for special events

Safle parod i’w addasu at eich dibenion chi

Mae croeso i chi alw heibio i weld y cyfleusterau arbennig neu, os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar bob cyfri.

Cipolwg »