Gwledd Briodas ar Fferm
Mae’r tir o gwmpas Fferm West Regwm wedi’i gynnal a’i gadw’n ofalus i greu’r safle perffaith ar gyfer gwledd briodas ar fferm yng Ngorllewin Cymru.
Saif y safle yng nghanol cefn gwlad godidog Sir Gâr a gyda’r coed, y llyn a’r caeau ffrwythlon o’i gwmpas, dyma i chi’r lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Dyma i chi hefyd y cefndir perffaith i’ch lluniau priodas ac mae’r golau deniadol yn creu awyrgylch bendigedig gyda’r nos.
Beth am ddod i’n gweld?
Os hoffech chi wybod mwy am Fferm West Regwm neu os hoffech chi ddod am daith anffurfiol o gwmpas, mae croeso i chi gysylltu â ni.